Gwylio Awyr y Nos yn Nhachwedd 2018

31.10.18

Ar Dachwedd y 4ydd mi welwn ni gawod sêr y Tawrid yn cyrraedd uchafswm ei weithgaredd. Mi ddylai fod yn weledol o'r 20fed o Hydref nes y 30ain o Dachwedd. Maent i'w gweld yng nghlwstwrt y Tarw (ffigwr 1) 

Gan gymryd bydd yr amodau gweld sêr yn weladwy dylem allu gweld 10 seren wib yr awr. Fodd bynnag mae'n fwyaf tebygol mai 7 y gwelwn oherwydd pefr yr awyr. Mi fydd y lleuad yn 27 diwrnod oed gan leihau y siawns o ymyrraeth. 

Mi fydd 2P/Encke yn weladwy rhwng oddeutu 19:50 a 00:12. Mi fydd yn codi 21 gradd uwchben y gorwel de ddwyreiniol, mi fydd yn cyrraedd ei bwynt uchaf am 21:59, 27 gradd uwch ben y gorwel ddeheuol. Mi fydd yn diflannu o'r golwg am 00:12 pan fydd yn disgyn i 22 gradd uwch y gorwel de orllewinol. Mae comed Encke yn gomed amserol sy'n cyflawni orbit o'r Haul (ffigwr 2a) unwaith bob 3.3 mlynedd. Cafodd ei gofnodi am y tro cyntaf gan Pierre Méchain yn 1786 ond ni ganfyddwyd fel comed amserol nes 1819 gan Johann Franz Encke: fel Comed Halley, mae'n anghyffredin yn y ffordd mae'n cael ei enwi ar ôl cyfrifwr ei orbit yn hytrach na'i ganfyddwr. Diamedr niwclews y comed yw 4.8km.

Ffigwr 1 Ardal y Tawrid o fewn y Tarw.


Ffigwr. 2a: Llwybr comed 2P Encke.

Ffigwr 2b: Comed Encke, Hawlfraint NASA Spitzer Telescope.

Ar y 11fed o Dachwedd mi fydd y Lleuad a Sadwrn yn pasio'n agos. Mi fydd y Lleuad yn 4 diwrnod oed.
Mi fyddant i'w gweld tua'r gorwel gan bylu 2 awr 44 munud ar ôl i'r haul fachlud. Mi fydd y ddau yn ymddangos yn nghytser y Saethwr.  (ffigwr 3).

Ffigwr 3

Ar ddydd Gwener 16eg mi fydd y Lleuad a Mawrth (yn y Dyfrwr) yn pasio o fewn 0.57 gradd i'w gilydd. Mi fydd y lleuad yn 9 diwrnod oed. Mi fydd y ddau yn weladwy am 15:50 (GMT) fel fydd yr awyr y llwydnos yn diflannu, 20 gradd uwch y gorwel De Ddwyreiniol. Mi fydd yn hawdd i'w gweld gyda sbienddrych.

Hefyd ar 16eg o Dachwedd mi fydd asteroid 3 Juno (ffigwr 4) yn weladwy yng nghysawd Eridanws (ffigwr 5) am rhan fwyaf o'r noson.

Ffigwr 4: 3 Juno. Hawlfraint: NASA


Fig. 5: Cysawd Eridanus.

Dim ots ble fyddwch yn y byd mi fydd Juno 3 ar ei uchaf yn yr awyr am hanner nos.

Mi fydd ar ei bwynt gorau pan fydd yn y pwynt yn yr awyr sydd gyferbyn a'r haul. 



Ffigwr 6: Uned Astronomeg, 1 AU = 93 000 000 milltir neu 150 000 000 km.

Ffigwr 7. Llwybr Asteroid 3 Juno.

Ar 17eg o Dachwedd gellir gweld M45 y clwstwr sêr agored yng nghlwstwr y Tarw. (ffigwr 8).

Ffogwr 8: M45 yn nghysawd y Tarw, 444 blwyddyn golau i ffwrdd o'r Ddaear.

Mi fydd M45 yn weladwy yn awyr y bore oddeutu 17:40 pan fydd 12 gradd yn uwch na'r gorwel gogledd ddwyreiniol. Mi fydd yn cyrraedd y pwynt uchaf yn yr awyr am 00:20, 62 gradd uwch gorwel y de. Mi fydd yn diflannu yng nghyfnos y wawr am 06:40, 15 gradd uwch gorwel y gorllewin. Mi fydd M45 yn weladwy i'r lygad noeth ond mi fydd i'w gweld yn well gyda sbienddrych neu thelesgop.

Ffigwr. 9: Y Pleiades, Hawlfraint NASA/ESA

Mi fydd y Lleuad ac M44 (ffigwr 10) yn dynesu ar Dachwedd 27ain gan basio o fewn 0° 25´ i'w gilydd. Mi fydd y Lleuad yn 20 diwrnod oed ar y pryd. Mi fyddant yn weladwy yn awyr y bore ac yn hygyrch oddeutu 21:40, pan fyddent yn codi 7 gradd uwch gorwel y Gogledd Ddwyrain. Mi fyddant ar eu pwynt uchaf yn yr awyr o gwmpas 04:32, 57 gradd uwch gorwel y De. Mi fyddant yng nghysawd y Cranc (ffigwr 11) ac yn weladwy trwy sbienddrych neu delesgop.


Ffigwr 10: M44 y clwstwr Cwch gwenyn, 177 blwyddyn golau i ffwrdd. Hawlfraint NASA.

Ffigwr 11: Clwstwr y Cranc

Mae clwstwr y Cranc yn fwyaf adnabyddus am ei gwrthrychau awyr ddyfn ac yn benodol am glwstwr agored M44, y clwstwr Cwch gwenyn neu Praesepe. Gellir canfod hwn yng nghanol y clwstwr.

Ar y 30ain o Dachwedd mi ellir gweld y lleuad (ffigwr 12) yn amlwg yn awyr y wawr, yn codi oddeutu hanner nos yn y chwarter olaf.

Ffigwr 12, Y lleuad yn ei chwarter olad yng nghysaw y Llew (ffigwr 13)

Mi fydd yn weladwy am 00:15 pan fydd yn codi uwch y gorwel Ddwyreiniol. Mi fydd yn cyrraedd y pwynt uchaf yn yr awyr o gwmpas 06:20, 50 gradd uwch y gorwel ddeheuol. Mi fydd yn pylu yn awyr y wawr am 07:30, 47 gradd uwch y gorwel De Orllewinol.

Dros y dyddiau wedyn mi fydd yn codi yn hwyrach bob dydd ac yn weladwy am lai o amser bob tro cyn y wawr. Erbyn amser lleuad newydd, mi fydd yn codi o gwmpas o gwmas y wawr ac yn pylu tua'r machlyd a dim ond yn weladwy yn yn ystod y dydd. Mi fyddant yn weladwy i'r lygad noeth. 

Ffigwr 13, Clwstwr y Llew pan fydd y Lleuad yn y chwarter olaf.
.

Ffigwr 14: Gwener, Hawlfraint NASA.

Hefyd ar 30ain o Dachwedd mi fydd Gwener yn perfio'n weladwy iawn yn awyr y wawr.
Mae orbit Gwener yn agosach i'r Haul na un y Ddaear sy'n golygu ei fod yn anodd i'w weld rhan fwyaf o'r amser. Dyw ond yn weladwy am ychydig wythnosau ar y tro pan fydd ar ei bellaf o'r haul. Ar yr adegau hyn fodd bynnag mae'n perfio gymaint fel bod yn ymddangos fel y trydych gwrthrych fwyaf gweladwy yn yr awyr.
Mae gloywder Gwener yn yn ddibynol ar ei phellter o'r ddaear a'i safle o'r Haul. Er enghraifft pan fydd yn pasio rhwng y Ddaear a'r Haul mae'r ochor sy'n troi at y ddaear yn hollol dywyll, yn union fel lleuad newydd.

Rhybudd: Peidiwch byth a cheisio edrych drwy sbienddrych neu delesgop ar rhywbeth sydd yn agor i'r Haul. Peidiwch byth chwaith a cheisio edrych ar yr haul gyda'ch llygad, gallwch gael eich dallu o ganlyniad. Defnyddiwch offer pwrpasol bob tro.

Mi fydd meddalwedd Stellarium yn cymhorthi'n wych er mwyn lleoli gwrthrychau yn yr awyr, mae'n declun da ar gyfer seryddiaeth hefyd. 

Mark R Smith FRAS

Ffisegwr
Ymasiad Niwclear ac Astroffiseg